Albert Camus

Llenor yn yr iaith Ffrangeg ac athronydd oedd Albert Camus (7 Tachwedd 1913 - 4 Ionawr 1960), a anwyd yn Mondovi (heddiw: Dréan) yn Algeria. Ystyrir Camus ymhlith awduron mwyaf blaenllaw a dylanwadol y 20g.

Fel Jean-Paul Sartre a Simone de Beauvoir, arddelai Camus athroniaeth dirfodaeth (Existentialism). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1957.

Dyn papur newydd a chynhyrchydd dramâu oedd wrth ei alwedigaeth; fe gyhoeddodd gyfrolau o ysgrifau ar athroniaeth a gwleidyddiaeth ac ysgrifennodd ddramâu, ond fel athronydd ac, yn enwedig, fel nofelydd y daeth i fri ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Defnyddiodd y nofel fel cyfrwng i fynegi ei syniadau am fywyd a chyflwr y ddynoliaeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Albert Camus', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Albert Camus
    Cyhoeddwyd 2013
    Ouvrage