Matthew Arnold
Roedd Matthew Arnold (24 Rhagfyr 1822 – 15 Ebrill 1888) yn fardd a llenor Saesneg.Ganed Arnold yn Laleham, Middlesex, yn fab hynaf Dr. Thomas Arnold, prifathro Ysgol Rugby. Aeth i Brifysgol Rhydychen ac yn ddiweddarach daeth yn ysgrifennydd preifat yr Arglwydd Lansdowne. Trwy ddylanwad Lansdowne daeth yn Arolygydd Ysgolion yn 1851, a phriododd Lucy Wightman yr un flwyddyn.
Cyhoeddodd Arnold ei gyfrol gyntaf o gerddi yn 1849, ac yn fuan daeth yn adnabyddus fel bardd. Yn 1857 daeth yn Athro Barddoniaeth yn Rhydychen. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar lenyddiaeth: ''On Translating Homer''" (1861, 1862) a ''On the Study of Celtic Literature'' (1867). Ei gerdd fwyaf adnabyddus bellach yw ei gerdd ddiweddar ''Dover Beach''. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3