Béroul
Bardd Normanaidd a flodeuodd yn y 12g oedd Béroul. Cyfansoddodd y gerdd ''Tristan'', fersiwn Eingl-Normaneg o chwedl Trystan ac Esyllt sydd wedi goroesi fel testun anghyflawn a darniog o tua 3000 llinell; dyma'r testun cynharaf o'r fersiwn "werinol" o'r chwedl yn llenyddiaeth y Ffrancod a'r Eingl-Normaniaid (gyda'r fersiwn "llysol" yn cael ei chynrychioli gan y drylliau o gerdd Thomas o Brydain). Ysgrifennodd yr Almaenwr Eilhart von Oberge ymdriniaeth o'r testun yn Almaeneg, ac mae nifer o ddigwyddiadau o fersiwn Béroul yn ail-ymddangos yn y testun diweddarach a elwir yn 'Chwedl rhyddiaith Trystan'. Darparwyd gan Wikipedia-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8