George Berkeley

Athronydd o Iwerddon ac Esgob Anglicanaidd Cloyne oedd George Berkeley (; 12 Mawrth 168514 Ionawr 1753). Roedd yn esboniwr blaenllaw ym maes athronyddol empiriaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ddamcaniaeth o "immaterialism" ("anfaterioliaeth") sy'n gwadu bodolaeth sylwedd materol ac yn hytrach yn dadlau mai dim ond syniadau ym meddyliau canfyddwr yw gwrthrychau cyfarwydd fel byrddau a chadeiriau ac, o ganlyniad, na allant fodoli heb gael eu canfod.

Ym 1709, cyhoeddodd Berkeley ei waith mawr cyntaf, ''An Essay Towards a New Theory of Vision'' ("Traethawd ynglŷn â Damcaniaeth Newydd o Olwg"), lle bu’n trafod cyfyngiadau golwg ddynol a datblygu’r theori nad gwrthrychau materol yr ydym yn eu gweld, ond yn hytrach golau a lliw. Cyhoeddwyd ei brif waith athronyddol, ''A Treatise Concerning the Principles of Human Knowledge'' ("Traethawd ynghylch Egwyddorion Gwybodaeth Ddynol"), ym 1710. Cafodd hyn dderbyniad gwael gan y cyhoedd, felly fe'i hailysgrifennodd ar ffurf deialog a'i gyhoeddi o dan y teitl ''Three Dialogues between Hylas and Philonous'' ("Tair Ymgom rhwng Hylas a Philonous") ym 1713. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 7 canlyniadau o 7 ar gyfer chwilio 'Berkeley, George', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan BERKELEY George
    Cyhoeddwyd 1985
    Ouvrage
  2. 2
    gan Berkeley, George
    Cyhoeddwyd 1970
    Ouvrage
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
    gan Berkeley, George
    Cyhoeddwyd 1926
    Ouvrage
  7. 7