Alan Davidson
Hanesydd bwyd a diplomydd o Brydain oedd Alan Eaton Davidson CMG (30 Mawrth 1924 – 2 Rhagfyr 2003). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y golygydd y gyfrol wyddoniadurol ''The Oxford Companion to Food'' (1999).Ganwyd ym 1924 yn Derry, Gogledd Iwerddon. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n swyddog y Llynges Frenhinol. Wedyn, tra'n gweithio fel diplomydd yn y Swyddfa Dramor, treuliodd amser mewn llysgenadaethau o gwmpas y byd (Den Haag, Cairo, Tiwnis, Brwsel a Vientiane) a dechreuodd ymddiddori yn y bwydydd o wahanol ddiwylliannau; felly cychwynodd ar yrfa o ysgrifennu am hanes bwyd.
Enillodd Wobr Erasmus yn 2003. Darparwyd gan Wikipedia
-
1