Karl Marx
Athronydd gwleidyddol, economegydd, a damcaniaethwr cymdeithasol dylanwadol o dras Iddewig o'r Almaen oedd Karl Heinrich Marx (5 Mai 1818 – 14 Mawrth 1883). Er iddo drafod nifer o bynciau yn ei yrfa fel newyddiadurwr ac athronydd, mae mwyaf enwog am ei ddadansoddiad o hanes yn nhermau gwrthdaro dosbarth. Crynhoir ei athroniaeth gan yr honiad bod diddordeb cyfalafwyr a gweithwyr cyflogedig yn gwbwl groes i'w gilydd. Ei weithiau mwyaf adnabyddus yw'r pamffled 1848 ''Manifest der Kommunistischen Partei'' (Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol) a (casgliad o bedair cyfrol; 1867–1883, sy'n dadansoddi cyfalafiaeth y 19g). Dylanwadodd Marx yn aruthrol ar hanes o ran economeg a gwleidyddiaeth. Mae ei enw wedi cael ei ddefnyddio fel ansoddair, enw, ac fel ysgol o theori gymdeithasol. Fe'i ystyrir yn destun sylfaenol Comiwnyddiaeth a Marcsiaeth. Cydweithiodd Marx ar ddarnau o'i waith gyda'r diwydiannwr Friedrich Engels, Almaenwr arall a gefnogodd Marx yn ariannol ac a helpodd olygu ''Das Kapital''. Gydag ef ysgrifennodd Marx ''Y Maniffesto Comiwnyddol'' yn 1848, un o'r llawysgrifau gwleidyddol mwyaf dylanwadol erioed.Ar ôl darllen am gyfraith Hywel Dda a'r hawliau a roddodd i fenywod, nododd Marx am y Cymry: "Tipyn o fechgyn, y Celtiaid hyn. Ond dilechdidwyr o'u genedigaeth, gan gyfansoddi popeth mewn triadau."
Ganed Marx yn Trier, yr Almaen, ac astudiodd y gyfraith ac athroniaeth ym mhrifysgolion Bonn a Berlin. Priododd y beirniad theatr o'r Almaen a'r gweithredwr gwleidyddol Jenny von Westphalen ym 1843. Oherwydd ei gyhoeddiadau gwleidyddol, daeth Marx yn ddi-wladwriaeth a bu’n byw’n alltud gyda’i wraig a’i blant yn Llundain am ddegawdau, lle parhaodd i ddatblygu ei feddwl ar y cyd â’r meddyliwr Almaenig Friedrich Engels gan gyhoeddi ei ysgrifau.
Mae damcaniaethau beirniadol Marx am gymdeithas, economeg, a gwleidyddiaeth yn cael eu hadnabod ar y cyd fel 'Marcsiaeth', sy'n dal bod cymdeithasau dynol yn datblygu trwy wrthdaro dosbarth. Yn y dull cyfalafol o gynhyrchu, mae hyn yn amlygu ei hun yn y gwrthdaro rhwng y dosbarthiadau rheoli (a elwir y
Disgrifir Marx fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol yn hanes pobl, ac mae ei waith wedi cael ei ganmol a'i feirniadu. Gosododd ei waith mewn economeg y sail i rai damcaniaethau cyfredol am lafur a'i berthynas â chyfalaf. Mae llawer o ddeallusion, undebau llafur, artistiaid, a phleidiau gwleidyddol ledled y byd wedi cael eu dylanwadu gan waith Marx, gyda llawer yn addasu ei syniadau. Cyfeirir at Marx yn nodweddiadol fel un o brif benseiri gwyddor gymdeithasol fodern. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9Le Capital : critique de l'économie politique. Livre deuxième : le procès de circulation du capital.gan MARX Karl
Cyhoeddwyd 1969Ouvrage -
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20