Molière
250px|bawd|Portread o MolièreDramodydd o Ffrainc oedd Jean-Baptiste Poquelin, neu Molière (15 Ionawr, 1622 - 17 Chwefror, 1673).
Cafodd ei eni ym Mharis. Bu'n teithio Ffrainc gyda'r actores Madeleine Béjart a'u cwmni, ''l'Illustre Théâtre'' am nifer o flynyddoedd. Ei ddrama olaf oedd ''Y Claf Diglefyd (Le Malade imaginaire)'', a berfformiwyd gyntaf yn gynnar yn 1673. Cymerwyd yr awdur yn wael yn ystod y pedwerydd perfformiad, ar 17 Chwefror, 1673, a bu farw yn fuan wedyn.
Cyfeirir at y Ffrangeg, ac yn benodol Ffrangeg coeth, weithiau fel ''la langue de Molière'' (iaith Molière), yn yr un ffordd ag y cyfeirir at y Gymraeg fel iaith Dafydd ap Gwilym, neu'r Eidaleg fel iaith Dante. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7