Samuel Eliot Morison
Hanesydd a bywgraffydd o'r Unol Daleithiau oedd Samuel Eliot Morison (9 Gorffennaf 1887 – 15 Mai 1976) sy'n nodedig am ei ysgolheictod am hanes morwrol, a hanes llyngesol yn enwedig.Ganwyd yn Boston, Massachusetts, a mynychodd St. Paul's School yn Concord, New Hampshire. Astudiodd ym Mhrifysgol Harvard. Gwasanaethodd yn Llynges yr Unol Daleithiau o 1942 i 1951, a chyrhaeddodd reng ôl-lyngesydd yn y llynges wrth gefn.
Enillodd Wobrau Pulitzer am ei fywgraffiadau o Cristoforo Colombo (''Admiral of the Ocean Sea'') a John Paul Jones.
Bu farw yn Boston yn 88 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1