Gayatri Chakravorty Spivak

| dateformat = dmy}}

Awdures o India yw Gayatri Chakravorty Spivak (ganwyd 24 Chwefror 1942) sydd hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel athronydd, academydd, cyfieithydd, athro prifysgol a beirniad llenyddol.

Fe'i ganed yn Kolkata ar 24 Chwefror 1942. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Calcutta, Prifysgol Iowa a Phrifysgol Cornell. Yn 2019 roedd yn athro prifysgol ym Mhrifysgol Columbia. Yno, sefydlodd Sefydliad Llenyddiaeth Cymharol a Chymdeithas.

Mae'n cael ei hystyried yn un o'r prif ddeallusion ôl-drefedigaethol (''postcolonial'') pennaf. Mae Spivak yn fwyaf adnabyddus am ei thraethawd "All the Subaltern Speak?" ac am ei chyfieithiad a'i chyflwyniad i ''De la grammatologie'' (1967) gan Jacques Derrida. Cyfieithodd weithiau yr awdur ffuglen Mahasweta Devi (1926 – 2016) e.e. ''Mapiau Dychmygol'' a ''Straeon y Fron'' i'r Saesneg a gyda gwerthfawrogiad beirniadol ar wahân o'r testunau a bywyd ac arddull ysgrifennu Devi.

Yn 2013, fe'i anrhydeddwyd hi gyda'r drydedd wobr mwyaf gan Weriniaeth India, sef Gwobr Padma Bhushan. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Spivak, Gayatri Chakravorty', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Spivak, Gayatri Chakravorty
    Cyhoeddwyd 2011
    Ouvrage
  2. 2
  3. 3
  4. 4
    gan Derrida, Jacques
    Cyhoeddwyd 1998
    Awduron Eraill: ...Spivak, Gayatri Chakravorty...
    Contributor biographical information
    Publisher description
    Ouvrage