Giuseppe Tucci
Ysgolhaig o'r Eidal a arbenigai yn niwylliant Tibet a hanes Bwdhaeth oedd Giuseppe Tucci (5 Mehefin 1894 – 5 Ebrill 1984). Yn ieithydd amryddawn, roedd yn rhugl mewn sawl iaith Ewropeaidd, Sansgrit, Bengaleg, Pali, Prakrit, Tsieinëeg a Tibeteg. Bu'n athro ym Mhrifysgol Rhufain La Sapienza. Ysgrifennodd sawl cyfrol ar ddiwylliant a hanes yr Asia Fwdhaidd. Darparwyd gan Wikipedia-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6