Giambattista Vico
Athronydd, hanesydd, a chyfreithegwr o Eidalwr oedd Giambattista Vico (Giovanni Battista Vico; 23 Mehefin 1668 – 23 Ionawr 1744) sy'n nodedig am arloesi hanes diwylliannol, anthropoleg ddiwylliannol, ac ethnoleg. Ei gampwaith ydy ''Scienza nuova'' (1725), gwaith sy'n ceisio cysylltu hanesyddiaeth a gwyddorau cymdeithas i greu un "wyddor y ddynolryw".Ganwyd yn Napoli. Bachgen sâl ydoedd, ac er na chafodd fawr o addysg yn yr ysgol mi oedd yn ddarllenwr brwd. Gweithiodd am gyfnod fel tiwtor cyn iddo gael ei benodi'n athro rhethreg ym Mhrifysgol Napoli yn 1699. Penodwyd yn hanesydd llys i Frenin Napoli yn 1734.
Lluniodd ddull systematig o ymchwilio i'r gorffennol, ac mae ei waith yn nodweddiadol o hanesyddoliaeth a damcaniaethau am gylchred gwareiddiad, ac yn dadlau bod holl nodweddion cymdeithas a diwylliant yn berthnasol i astudiaeth hanes, a dylid barnu cyfnodau hanes yn ôl safonau a moesau'r lle a'r oes dan sylw. Egwyddor ei ysgolheictod oedd ''verum esse ipsum factum'' ("yr hyn a wneir ydy'r gwir"), yn groes i feddylfryd Descartes ynglŷn ag epistemoleg: hynny yw, yn ôl Vico, gallwn deall hanes a chymdeithas yn well na'r byd naturiol am yr union reswm taw pethau a wneid gan ddyn, nid Duw, ydynt. Cafodd ei esgeuluso am ryw canmlwydd a hanner, cyn i ysgolheigion yn niwedd y 19g gydnabod ei bwysigrwydd fel yr hanesydd modern cyntaf o'i fath. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6